Arfon Gwilym
Arfon Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1950 Rhydymain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Canwr gwerin, baledwr, cyhoeddwr a cherddor Cymreig yw Arfon Gwilym (ganwyd Medi 1950), sy'n enedigol o Rydymain, rhwng Dolgellau a'r Bala, Gwynedd. Mae'n enwog hefyd fel ymgyrchydd iaith[1] ac am ei waith yn hybu canu Plygain a cherdd dant dros y blynyddoedd.
Daeth i'r amlwg yn y noson honno ym Mhafilwn Corwen "Tafodau Tân", ble canodd ddiweddariad o'r gân draddodiadol Marged Fwyn Ferch Ifan yn ystod Eisteddfod Rhuthun yn 1973.[2]
Bu'n ohebydd gyda phapur newydd Y Cymro am dros ddeg mlynedd ac mae wedi ymwreiddio ers hynny yn ardal Meifod a Llanfyllin, Powys.
Mae'n frawd i'r actor Dyfan Roberts.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Cerddoriaeth y Cymry: Cyflwyniad i Draddodiad Cerddorol Cymru (Y Lolfa, 2007)
Disgograffeg[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Saesneg Walesonline
- ↑ "Recordiau Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-08. Cyrchwyd 2012-11-27.